Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cyfrifwch eich cynhaliaeth plant

Mae'r gwasanaeth yma yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae'r datganiad yma yn berthnasol i'r gwasanaeth Cyfrifwch eich cynhaliaeth plant yn unig, sydd ar gael yn https://www.gov.uk/cyfrifwch-gynhaliaeth-plant/.

Defnyddio'r Gwasanaeth yma

Mae'r gwasanaeth yma yn cael ei rheoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gallu defnyddio'r gwasanaeth yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun syrthio oddi ar y sgrin
  • Cael o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Cael o ddechrau'r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o Jaws, NVDA a Voiceover)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth yma

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin, ac efallai na fyddant yn dangos gwir liwiau - rydym wedi cynnwys opsiwn i gynhyrchu fersiwn HTML hygyrch o'r ffeiliau hyn.

Adborth a gwybodaeth cyswllt

Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth yma, cysylltwch â ni:

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (Lloegr, yr Alban a Chymru)

Ffôn: 0800 141 2360

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:00 am i 4:00 pm (ac eithrio gwyliau banc)

Relay UK: 18001 0800 141 2360

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:00 am i 8:00 pm (ac eithrio gwyliau banc)

Mae galwadau i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhad ac am ddim o linellau daear a ffonau symudol

Child Maintenance Choices (Gogledd Iwerddon)

Ffôn: 0800 028 7439

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30 am i 3:30 pm (ac eithrio gwyliau banc)

Relay UK: 18001 0800 028 7439

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:00 am i 8:00 pm (ac eithrio gwyliau banc)

Mae galwadau i'r Child Maintenance Choices yn rhad ac am ddim o linellau daear a ffonau symudol

Os ydych yn defnyddio iaith arwyddion Prydain neu Wyddelig

Gwiriwch y gallwch chi ddefnyddio'r fideo gwasanaeth gyfnewid iaith arwyddion

Gwasanaeth gyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gwasanaeth gyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Gwyddelig (ISL)

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30 am i 3:30 pm (ac eithrio gwyliau banc)

Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth yma, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych chi am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch chi, ond cysylltwch â ni os bydd eu hangen arnoch mewn fformat gwahanol. Er enghraifft print mawr, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth yma

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth yma. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, anfonwch e -bost atom:

bpv.cmg-optionsbeta@dwp.gov.uk

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi'r Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth yma

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth yma yn hygyrch, yn unol â Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.

Mae'r gwasanaeth yma yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA.

Darparu'r datganiad hygyrchedd yma

Mae'r datganiad yma wedi cael ei ddarparu ar 23/09/2019. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 17/01/2023.

Profwyd y wefan yma ddiwethaf ar 21/12/2022. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol a gwiriwyd am gydymffurfio â WCAG 2.1AA.